Malky Mackay
Mae rheolwr Caerdydd, Malky Mackay, wedi cadarnhau fod y clwb wedi arwyddo amddiffynnwr QPR, Matthew Connolly.
Roedd yr amddiffynnwr 24 oed yn rhan o dîm QPR a enillodd y Bencampwriaeth yn nhymor 2010/2011, ac mae’n ymuno am tua £500,000.
Dechreuodd ei yrfa gydag Arsenal cyn symud i Loftus Road yn 2008 am £1 miliwn.
Cyfaddefodd Malky Mackay hefyd fod y clwb mewn trafodaethau â QPR, sy’n cael ei rheoli gan gyn-reolwr Cymru Mark Hughes, i arwyddo’r ymosodwr Tommy Smith.
Fe gafodd Caerdydd gem ddi-sgôr yn erbyn Brighton yn y Bencampwriaeth neithiwr.