Mae pedwar grŵp o Sgowtiaid ar eu ffordd i fyny’r Wyddfa’r bore ma i gynnau’r ffagl i nodi paratoadau ar gyfer y Gemau Paralympaidd.

Wythnos cyn i’r Gemau Paralympaidd ddechrau, bydd grwpiau o Sgowtiaid ynghyd â’r Arglwydd Seb Coe, un o brif drefnwyr y Gemau, yn cerdded i gopa’r Wyddfa  er mwyn cynnau’r fflam am 10yb.

Bydd y fflam yn cyrraedd copa’r mynydd uchaf ym mhob gwlad Brydeinig i gydnabod cyfraniad pob gwlad i’r Gemau.

Ar ôl cynnau’r fflam ar gopa’r Wyddfa, bydd y ffagl yn dychwelyd lawr y mynydd ar droed ac yna’n teithio i Lundain, Caerdydd, Belffast a Chaeredin.

Dywedodd llefarydd ar ran y Sgowtiaid fod y daith wedi’i hysbrydoli gan y gefnogaeth a gafwyd gan ymateb y cyhoedd yn ystod ras gyfnewid y ffagl Olympaidd yn gynharach yn yr haf.

Bydd pob un o’r pedwar grŵp yn cynnwys rhwng pedwar a chwe Sgowt, pob un ohonynt o gymunedau lleol.