Mae Morgannwg a Surrey wedi cynnal gêm dysteb emosiynol ar yr Oval heddiw er cof am Tom Maynard.
Chwaraeodd Tom Maynard dros y ddau glwb ac mae’r ddau dîm wedi bod yn gwisgo ei rif ar eu crysau – gwisgodd grys rhif 33 i Forgannwg a 55 i Surrey.
Mae Kevin Pietersen wedi bod yn batio dros Surrey yn y gêm tra bod amheuon fod ei yrfa ryngwladol ar ben ar ôl iddo gael ei adael allan o garfan Lloegr heddiw.
Dywedodd un o chwaraewyr Surrey, Tom Jewell, fod y gêm yn un “hynod o emosiynol.”
Mae cinio yn cael ei chynnal yn yr Oval ar ôl y gêm i godi arian i gronfa goffa Tom Maynard.
Bu rhai o sêr y byd criced yn seiclo o Gaerdydd i’r gêm yn Llundain er mwyn codi arian i’r gronfa, gan gynnwys tad Tom, Matthew Maynard, a chyn-gapten Lloegr Andrew Flintoff.