Ched Evans
Mae cyfreithwyr y pêl-droediwr, Ched Evans, a gafwyd yn euog o dreisio yn gynharach eleni, wedi dweud fod cam cyntaf ei apêl wedi methu.

Cafodd y chwaraewr rhyngwladol 23 oed ei garcharu am 5 mlynedd ym mis Ebrill am ymosod yn rhywiol ar ferch 19 oed ym mis Mai’r llynedd.

Mae’n mynnu nad oedd wedi treisio’r ferch.

Fe fydd yn parhau i ofyn am yr hawl i apelio, yn ôl ei gyfreithwyr.

Fe sgoriodd Ched Evans 35 gôl mewn 42 gêm i Sheffield United y tymor diwethaf, ond cafodd ei ryddhau gan y clwb yn dilyn yr achos llys.

Y Ddedfryd

Cafodd Ched Evans ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar ôl ei gael yn euog o dreisio’r ddynes mewn gwesty ger y Rhyl fis Mai diwethaf.

Cyfaddefodd ei fod wedi cael rhyw gyda hi, ond dywedodd y ddynes wrth y rheithgor nad oedd ganddi unrhyw gof o’r digwyddiad.

Fe fynnodd yr erlyniad ei bod hi’n rhy feddw i roi ei chaniatâd i gael rhyw.

Cafwyd amddiffynnwr Port Vale, Clayton McDonald, 23, yn ddieuog o’r un cyhuddiad, er iddo yntau hefyd gyfaddef iddo gael rhyw gyda’r ferch.