Llun: gwefan y Gleision
Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi mai Andries Pretorius yw capten y rhanbarth ar gyfer y tymor newydd.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros y rhanbarth yn Rhagfyr 2009, ar ôl ymuno o academi Caerloyw, a dywedodd fod cael ei benodi’n gapten yn “anrhydedd mawr.”

Daw Pretorius o Durban yn Ne Affrica a bu’n gapten dros dîm coleg Hartpury, ble bu’n astudio busnes.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gleision, Phil Davies, ei fod wedi cynnal arolwg ymhlith y chwaraewyr i gael gweld pwy o’r garfan oedd yn arddangos y nodweddion oedd yn mynd i ddod â llwyddiant i’r rhanbarth. Cafodd Andries Pretorius ei grybwyll gan lawer o’i gyd-chwaraewyr.

“Mae ganddo galon fawr a pharch y chwaraewyr ac mae hynna’n bwysig i unrhyw arweinydd,” meddai Phil Davies.

Mae’r Gleision wedi dewis pump is-gapten iddo – Leigh Halfpenny, Josh Navidi, Bradley Davies, Gavin Evans a Dafydd Hewitt.