Mae’r Sgarlets wedi arwyddo Jake Ball – chwaraewr ail reng o Awstralia sy’n gymwys i chwarae dros Gymru.

Dros yr haf, bu’n ymarfer gyda Western Force sy’n cynnwys seren a chapten tîm Awstralia, David Pocock.

Mae Jake Ball, sy’n 21 oed, ac yn chwe troedfedd saith modfedd, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda’r Sgarlets.

“Mae Jake yn rhoi opsiwn cryf arall i ni yn yr ail reng,” meddai prif hyfforddwr y Sgarlets, Simon Easterby.

“Rydym yn gobeithio fod hyn yn profi ein bod yn atynnu chwaraewyr Cymreig i’r rhanbarth a drwy wneud hynny, yn rhoi gwell cyfle i ddyfodol ein tîm rhyngwladol.”

Mae Jake Ball yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd bod ei dad yn dod o Fae Colwyn.

“Ar ôl bod o gwmpas y lle, mae’r cyfleusterau wedi gwneud argraff fawr arna’i,” meddai Jake Ball.

“Mae gan y clwb gyfoeth o hanes a thraddodiad, sy’n cael ei gydnabod ar hyd a lled y byd. Mae hyn yn gyfle gwych i mi.”