Mae’r ddau ddyn a gafodd eu lladd mewn awyren fach yn swydd Gaer ddydd Iau wedi cael eu henwi.

Roedd Karl Hendrickson, 43 oed o’r Wyddgrug, a John Green, 50 oed o Surrey, wedi bod yn teithio mewn Piper PA-38-112 Tomahawk pan ddaeth i lawr ar dir fferm ger pentref Churton yn nyffryn Dyfrdwy.

Roedd Karl Hendrickson wedi bod yn gweithio i gwmni Airbus ers dros 20 mlynedd.

Aeth yr awyren ar goll o Faes Awyr Penarlâg yn Sir y Fflint ac mae’r Adran Archwilio Damweiniau Awyr yn ymchwilio.