Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw bachgen 4 oed a syrthiodd i’r môr yn Burnham-on-Sea yng Ngwlad yr Haf.
Roedd Dylan Cecil o Swydd Northampton wedi syrthio i’r dŵr oddi ar llithrfan nos Sul.
Ceisiodd ei rieni ei achub ond methon nhw â’i gyrraedd.
Mae tîm o oddeutu 50 o bobl yn parhau i chwilio amdano.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau yn Abertawe eu bod nhw bellach yn chwilio am ei gorff.