Llifogydd - llun llyfrgell
Mae perygl o lifogydd sydyn mewn ardaloedd led led Cymru fory, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd.
Maen nhw wedi rhybuddio rhag y math o law trwm lleol iawn sydd eisoes wedi achosi trafferthion yn ystod yr haf.
Mae disgwyl glaw cyson tros nos heno ond fory y bydd y prolemau mwya’ gyda glaw trwm iawn mewn rhai ardaloedd yn ystod y prynhawn a gyda’r nos.
Fe allai cymaint â thair modfedd o law ddisgy o fewn ychydig oriau, meddai Curig Jones o Asiantaeth yr Amgylchedd, er y gallai fod yn lleol iawn.
“Dyna’r math o law sy’n gwneud i ffosydd a nentydd bach lenwi’n gyflym,” meddia, “ac mae yna berygl na fydd draeniau’n gallu dal yr holl ddŵr.”
Rhybudd i yrwyr hefyd
Yn ogystal â llifogydd lleol, mae’r Asiantaeth yn rhybuddio gyrwyr i fod yn ofalus wrth fynd a dod cyn y penwythnos – “gallai amodau gyrru fod yn beryglus,” meddai Curig Jones.
Mae’r Asiantaeth yn rhybuddio pobol rhag ceisio gyrru na cherdded trwy lifogydd, rhag cael eu sgubo ymaith.