Mynd trwy'r canlyniadau y llynedd
Fe fydd sylw arbennig yn cael ei roi i ganlyniadau Lefel ‘A’ yng Nghymru eleni, i weld a yw’r bwlch yn cau rhwng perfformiad disgyblion yma a rhai yng ngweddill gwledydd Prydain.

Ond mae’r ganolfan glirio, UCAS, wedi rhoi gair o gysur ymlaen llaw i bobol ifanc sy’n methu â tharo’r nod gyda’u canlyniadau Lefel ‘A’.

Y cyngor yw peidio â mynd i banig a chysylltu ar unwaith gyda phrifysgolion lle mae cyrsiau addas ar gael.

Roedd 50,000 o fyfyrwyr wedi cael lle trwy’r broses glirio funud ola’ y llynedd ac mae disgwyl y bydd pob un o ddeg prifysgol Cymru yn gallu cynnig llefydd eleni wrth i nifer y ceisiadau syrthio.

Cyngor UCAS

Mae UCAS yn awgrymu tri cham:

  • Cysylltu gyda’u gwasanaeth nhw – mae tîm ar-lein ac ar y ffôn wrth eu gwaith ers ben bore.
  • Edrych am gyrsiau addas gyda llefydd gwag a ffonio’r brifysgol berthnasol ar unwaiith.
  • Cymryd cyngor gan athrawon.

Cymru eisiau gwella

Y llynedd, roedd lefel pasio yng Nghymru yn debyg i Loegr, ond roedd llai o lwyddiant o ran y graddau ucha’.

Mae’r drefn addysg yng Nghymru wedi cael ei beirniadu hefyd ar ôl gwneud yn wael mewn tablau rhyngwladol, fel rhai PISA.

Ond mae llawer o ddisgyblion chweched dosbarth yng Nghymru hefyd yn gwneud y BAC Cymreig sydd, meddai’r Llywodraeth, yn gyfystyr â Lefel ‘A’.