Chris Coleman - rheswm tros fod yn feddylgar
Cymru 0 Bosnia Herzegovina 2

Colli wnaeth Cymru eto, ac mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, yn dal i aros am ei fuddugoliaeth gynta’ gyda’r tim cenedlaethol.

Roedd un gôl yn y naill hanner a’r llall yn ddigon i roi buddugoliaeth gyfforddus i Bosnia Herzegovina ac, ar wahân i daro’r postyn unwaith, wnaeth Cymru fawr o argraff o flaen 6.000 ar Barc y Scarlets.

Camgymeriad gan Neil Taylor, amddiffynnwr Abertawe, a achosodd y gôl gynta’ ac roedd yna amddiffyn gwan ar gyfer yr ail hefyd.

Ar wahân i ambell symudiad da yn yr ail hanner, prin oedd bygythiad Cymru ac fe ddaeth fflyd o eilwyr ymlaen yn yr ail hannner.

Fe gafodd Gwlad Belg, gwrthwynebwyr cynta’ Cymru yn y rowndiau rhagbrofol am Gwpan y Byd fuddugoliaeth dda yn erbyn yr Iseldiroedd.

Colli oedd hanes y tîm dan 21 hefyd, gan golli o 1-0 yn erbyn Armenia ar ôl mynd i lawr i ddeg dyn.