Chris Coleman
Mae Chris Coleman heno’n anelu am ei fuddugoliaeth gyntaf yn rheolwr Cymru pan fydd y tîm yn cwrdd â Bosnia-Herzegovina yn Llanelli.

Ac mae’n dweud mai chwaraewr ymosodol Spurs, Gareth Bale, yw un o’r ffigurau allweddol.

Mae Coleman wedi enwi carfan gref ar gyfer y gêm gyfeillgar ar Barc y Sgarlets ac yn gobeithio am berfformiad da cyn  i ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd ddechrau gyda gêm gartref yn erbyn Gwlad Belg ar 7 Medi, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Meddai Coleman

“Os dechreuwn ni’n dda yn nhair neu bedair gêm gyntaf yr ymgyrch yna fe allwn ni ddenu pobol Cymru nôl i’n gwylio ni,” meddai Chris Coleman.

“Yn ddelfrydol byddwn ni’n chwarae yn Stadiwm y Mileniwm o flaen torf lawn yn fuan. “Dyna beth hoffen ni wneud, ond rhaid i ni fod yn llwyddiannus i wneud hynny.”

Mae’r gêm yn dechrau heno am 7.45 ym Mharc y Sgarlets, Llanelli.

Bale yn ‘anhygoel’

Mae Chris Coleman wedi dweud fod Gareth Bale yn chwaraewr allweddol, ac yn debyg i Ryan Giggs ar ei orau.

“Mae rhai o’r pethau mae Gareth wedi eu gwneud wrth ymarfer yn anhygoel,” meddai Coleman.

“Roedd gan Giggs hynna. Roedd ganddo gymaint o allu bydden ni jyst yn dechrau chwerthin  achos roedd e ar lefel arall.

“Mae Gareth yr un peth. Rydych chi’n gwybod eich bod chi ym mhresenoldeb rhywun sbesial. Mae e fel ceffyl rasio.”