Malky - 'wedi ei syfrdanu'
Colli wnaeth tîm ifanc Caerdydd yn erbyn Northampton yng nghwpan Capital One ar ôl digwyddiad rhyfedd yn ymwneud â hosan chwaraewr.
Yn rownd gynta’r gystadleuaeth – yr hen Gwpan Carling – gwrthododd swyddog â gadael i’r eilydd Jordan Mutch fynd ar y cae o achos bod lliw’r tâp oedd ganddo er mwyn dal ei sanau i fyny yn wahanol i liw y sanau eu hunain.
Tra oedd ar yr ystlys llwyddodd Northampton i elwa ar eu mantais nhw o un dyn a sgorio’r gôl dyngedfennol.
Mae’r rheol liwiau’n newydd y tymor yma ac mae’n debyg mai dyma’r tro cynta’ iddi effeithio ar ganlyniad gêm.
Mackay ‘wedi ei syfrdanu’
Roedd y rheolwr Malky Mackay wedi ei syfrdanu gan y digwyddiad ac, ar ôl cyrraedd y rownd derfynol yn Wembley y tymor diwethaf, mae ei dîm wedi colli yn y rownd gyntaf eleni.