Mae’r heddlu wedi galw am lygaid dystion wedi gwrthdrawiad marwol yn Llangeinwyr bore ddoe.

Fe fu farw dyn 41 oed yn y fan a’r lle. Dywedodd yr heddlu bod dyn 40 oed yn y ddalfa ac “yn helpu ymchwiliad yr heddlu”.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 11.55am ar yr A4064 yn Llangeinwyr, sydd tua pum milltir i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr.

Gadawodd car Renault Clio arian y ffordd a tharo postyn lamp. Y gred yw ei fod yn teithio o gyfeiriad Blaengarw.

Dylai unrhyw un a welodd y Renault Clio yn cael ei yrru, neu a welodd y gwrthdrawiad, ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.