Bu’n rhaid i’r bocsiwr pwysau welter, Freddie Evans, fodloni ar fedal arian ar ôl colli 17-9 i Serik Sapiyev mewn rownd derfynol unochrog ar ddiwrnod olaf Gemau Olympaidd 2012.
Roedd y Cymro wedi dangos ei allu ar ôl cyrraedd y ffeinal er nad oedd ymysg y detholion, ond roedd y paffiwr o Kazakstan yn rhy gryf iddo.
Llwyddodd Evans i amddiffyn ei hun yn dda ond ni lwyddodd i ddyrnu ei wrthwynebydd yn ddigon aml.
Roedd gan Sapiyev amser i’w ddangos ei hun yn y rownd olaf wrth iddo gadw’r Cymro draw heb ormod o drafferth.
Roedd yn ddiwedd siomedig i daith Olympaidd galonogol Freddie Evans.
“Dyma’r olaf o bum gornest anodd ond does gen i ddim esgusodion, roedd yn gryfach ar y dydd,” meddai.
“Mae’r bencampwriaeth wedi bod yn un gwych i fi. Yr uchafbwynt oedd maeddu prif ddetholyn o’r Wcrain.
“Rydw i’n 21 oed ac ymysg yr ifancaf yn y gystadleuaeth.
“Yn y pen draw rydw i’n dal wrth fy modd fy mod i wedi cyrraedd y rownd derfynol.”