Chris Coleman
Mae hyfforddwr Cymru wedi cyfaddef y byddai yn anodd dod a Ryan Shawcross i mewn i sgwad Cymru, am nad yw ef a’r capten Aaron Ramsey yn hoff iawn o’i gilydd.

Torrodd Aaron Ramsey ei goes mewn chwe lle gwahanol ar ôl tacl gan Ryan Shawcross ym mis Chwefror 2010.

Dewisodd Aaron Ramsey anwybyddu ymdrechion Ryan Shawcross i ymddiheuro.

Mae Chris Coleman wedi dweud ei fod yn awyddus i gael amddiffynnwr Stoke yn cynrychioli Cymru.

Ganwyd y pêl-droediwr 24 oed yng Nghaer ond mae’n gymwys i chwarae i Gymru ar ôl treulio pum mlynedd yn cael ei addysgu yma.

Roedd Ryan Shawcross wedi dweud yn y gorffennol y hoffai gynrychioli Lloegr, ond heb gael cyfle dros yr 18 mis diwethaf.

Dywedodd Chris Coleman ei fod wedi siarad ynglŷn â’r mater gyda Aaron Ramsey.

“Roedd yn gadarnhaol iawn, ond mae’n amlwg ei fod yn fater anodd,” meddai.

“Ond y pwynt yw chwarae pêl-droed a llwyddo, nid bod yn ffrindiau gorau.

“Does dim rhaid iddyn nhw siarad â’i gilydd ar yr amod eu bod nhw’n cyd-weithio ar y cae chwarae.

“Mae’n ystafelloedd newid gorau yn rai ychydig bach yn ddadleugar.

“Dyna oedden i wedi ceisio ei ddweud wrth Aaron, mae’n chwaraewr proffesiynol ac yn y pen draw mae eisiau beth sydd orau i Gymru.

“Fe allen i wneud fy ngorau i wneud pethau’n gyfforddus i’r chwaraewyr, a sicrhau eu bod nhw’n cael yr amser gorau, ond os nad ydyn i’n ennill, beth yw’r pwynt?”