Mae staff S4C yn cerdded i’w gwaith gyda “gwên ar eu hwyneb”, er gwaethaf helyntion diweddar y sianel a straeon yn y wasg yn honni fod y gweithwyr wedi colli ffydd yn y rheolwyr.
Dyna ddywedodd Rheon Tomos, Is-gadeirydd dros dro Awdurdod S4C, wrth siarad gyda chylchgrawn Golwg ar ôl cyhoeddi adroddiad manwl y cyn-was sifil Syr Jon Shortridge ar y drefn o reoli’r sianel.
Roedd Rheon Tomos, sydd wedi gwneud cais i fod yn Gadeirydd llawn amser, hefyd yn mynnu fod Awdurdod S4C yn gorff “cyfrifol” sydd yn gymwys i wasanaethu cymunedau Cymraeg.
“Mae’r tîm rheoli yn dweud wrtha’ i eu bod nhw’n teimlo bod morale yn arbennig o uchel yma,” meddai Rheon Tomos. “Mae hynny’n syndod efallai, o gofio ein bod yn mynd i golli arian sylweddol blwyddyn nesaf, ac mae yna effaith yn mynd i fod ar gynnal swyddi ac yn y blaen.”
“Ro’n i’n siarad efo rhywun y diwrnod o’r blaen, ac roedd o’n dweud wrtha’ i: ‘Mae pobol yn dod i mewn i S4C gyda gwên ar eu hwyneb!’” meddai Rheon Tomos.
Darllenwch weddill y cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, 17 Chwefror