Lluniau David Rees Davies
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymddiheuro ar ôl i lun o ferch leol a’i llofrudd gael eu cynnwys mewn arddangosfa gelf.
Cafodd y lluniau gan yr artist David Rees Davies yn y Lle Celf eu tynnu i lawr ddoe, ond dywedodd teulu Rebecca Oatley na ddylen nhw fod wedi eu dangos o gwbl.
Roedd un o’r delweddau yn dangos Rebecca Oatley, oedd wedi ei lladd lai na 10 milltir o safle maes yr Eisteddfod, â gwaed yn dod o’i phen.
“Mae Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, wedi dweud ei fod yn ymddiheuro yn bersonol am unrhyw loes calon a achoswyd gan ddigwyddiadau’r dyddiau diwethaf,” meddai llefarydd.
“Dywedodd nad ei fwriad oedd achosi unrhyw boen pellach i’r teulu.”
Roedd y trefnwyr wedi mynnu o’r dechrau nad oedden nhw ymwybodol o natur y delweddau cyn iddyn nhw gael eu harddangos.
Dywedodd yr Eisteddfod bod hyd at 350 o artistiaid wedi gwneud cais am le yn y Lle Celf, a bod y panel wedi dewis y 40 ar sail cynnwys weledol y darluniau.
Ddydd Mercher fe gafodd y lluniau eu cuddio dan gynfas, a nodyn ei roi wrth y fynedfa yn rhybuddio ymwelwyr ynglŷn â nhw.
Daw’r ymddiheuriad wedi i Aelod Seneddol y teulu, Huw Irranca-Davies, ddweud wrth Golwg 360 y dylai’r Eisteddfod ddysgu gwersi o beth ddigwyddodd.
“Rwy’n gobeithio fod yr Eisteddfod yn dysgu gwersi o hyn. Nid mater o sensoriaeth yw e ond mater o roi ystyriaeth i gyd-destun amser a lle,” meddai.
“Mae cyd-destun cymdeithasol gwaith o gelf yn bwysicach na chyfiawnhad artistig neu feirniadol.”
Mae mam Rebecca Oatley wedi galw am ymddiswyddiad pwy bynnag oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i ddangos y delweddau.