Aeth 21,037 o bobol drwy glwydi’r Eisteddfod heddiw, sy’n llai na’r nifer aeth ar y Dydd Gwener yn Eisteddfod Wrecsam y llynedd ond yn fwy na’r nifer aeth yn ystod Eisteddfod Blaenau Gwent yn 2010.
Dyma oedd torf fwya’r wythnos yn Llandw.
Roedd y Pafiliwn pinc yn llawn ar gyfer digwyddiad mawr y dydd, sef seremoni’r Gadair, a Dylan Iorwerth o Lanwnnen yng Ngheredigion oedd y bardd a gafodd ei gadeirio.