Dylan Iorwerth
Dylan Iorwerth ydi enillydd y Gadair eleni.

Mae’r cerddi yn y dilyniant wedi’u hysgogi gan farwolaeth tad Dylan yn gynharach eleni.

Fe gafodd y dilyniant 250 llinell ar y testun ‘Llanw’ eu hysgrifennu er cof am Thomas Edwards Jones.

Mae’r cerddi’n gymysgedd o ddychymyg a gwirionedd, ac wedi’u seilio ar y profiad o fod gyda’i dad yn ystod ei fisoedd olaf.

Fe enillodd Dylan Iorwerth y Goron yn Eisteddfod 2000 yn Llanelli a’r Fedal Ryddiaith yn Eryri yn 2005.

Cafodd ei eni yn Nolgellau cyn symud i Waunfawr ger Caernarfon, ond mae’n byw ers chwarter canrif yn Llanwnnen ger Llanbedr Pont Steffan, ac yn Olygydd Gyfarwyddwr cwmni Golwg.

Fe enillodd ei nai, Rhys Iorwerth, 28 oed, y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd, a darllenodd Rhys gyfarchiad i’w ewythr yn ystod y seremoni.

Roedd 10 o ymgeiswyr wedi cystadlu eleni, ar y thema Llanw, a’r beirniaid oedd Mererid Hopwood, Huw Meirion Edwards ac Ieuan Wyn.

Ieuan Wyn: Ymchwydd y llanw yn rhedeg trwy’r cerddi

Talodd un o feirniaid y Gadair, y Prifardd Ieuan Wyn, deyrnged i gamp Dylan Iowerth wedi’r seremoni.

“Mae hi’n eithriadol o anodd cael dilyniant da,” meddai Ieuan Wyn wrth Golwg360.

“Ond mae hwn yn ddilyniant gwerth chweil.  Mae’n rhaid i’r cerddi unigol fod yn rhan o thema, mae eisio llinyn arian yn mynd trwyddyn nhw, ond eto rhaid i bob cerdd unigol sefyll ar ei thraed ei hun.

“Ond mi oedd y cerddi, ac mae y cerddi yma, yn greadigaethau cyfan, crwn. Ac mae’r gynghanedd yn gorwedd yn naturiol, braf.

“Mae’r mynegiant, y modd a’r sylwedd, yn briodas hapus yn y cerddi yma. Mae’r ymdriniaeth ar wahanol agweddau ar ddarfodedigaeth a grym bywyd ochr yn ochr yn dod trwy bopeth. Mae’n ymwneud â chychwyn y cread – mae o’n cyfeirio at Ddarwiniaeth ac yn sôn am golled yr unigolyn.

“Eto mae’r ddeuoliaeth yma – mae’r gogwydd ar y gobeithiol. Mae hynny’n beth da iawn oherwydd mae’r trywydd y mae  o’n ei ddilyn yn rhoi cadarnhad, nid yn unig i werth yr enaid unigol ond i barhad bywyd yn gyffredinol.

“Dyna ydi’r ‘Llanw’ wrth gwrs, mae ymchwydd y llanw yn gyforiog trwy’r cerddi i gyd. Waeth ba is-thema sydd o fewn y brif thema, sef colledigaeth, mae bywyd ac adnewyddiad yma yn barhaus,” meddai Ieuan Wyn.

Dylan wedi dod yn ail i’w nai

Roedd Dylan Iorwerth wedi dod yn ail yng nghystadleuaethy gadair y llynedd – i’w nai, Rhys.

Ei ffugenw y llynedd oedd ‘Col’, a dyna’r unig dro arall iddo gystadlu am y Gadair cyn eleni.

“Yn ôl y beirniaid beth bynnag, ro’n i’n ail, yr unig broblem oedd mai fy nai fy hun, Rhys, oedd wedi ennill,” meddai’r Prifardd.

“Ond ro’n i’n falch iawn o hynny, ac roeddwn i’n falchach ar y pryd na taswn i wedi ennill fy hun.

“Mae wedi gweithio’n berffaith, dydi? Yr unig beth oedd bod fy nhad i wedi marw cyn i mi ennill y Gadair. Dw i’n gwybod y buasa fo wedi bod yn falch, yn bendant.”

Ysgrifennodd y cerddi mewn tua chwe diwrnod o “sgrifennu gweddol ddwys” pan aeth i logi ffermdy wrth droed Cader Idris, wedi i’w dad farw ddiwedd mis Chwefror. Yn Nolgellau y cafodd ei eni a dyna oedd cartref cynta’r teulu.

“Doedd yna ddim cyfle i mi fynd nôl i ddarllen drostyn nhw,” meddai. “Dw i’n gwybod bod yna wendidau, ond mi o’n i’n sgwennu ar y pryd ac o’r galon.”