Mae’r gynulleidfa sy’n gwylio seremoni fawr y Cadeirio yn y Pafiliwn newydd gael dipyn o fraw. Ychydig cyn 4.30yh cododd tua 200 o glocswyr a dawnswyr gwerin ar eu traed a dechrau dawnsio i’r alaw werin Pwt ar y Bys.

Dyma’r fflachmob fawr gyntaf i’r Eisteddfod ei threfnu, sef perfformiad annisgwyl wedi’i threfnu ymlaen llaw mewn mannau cyhoeddus fel canolfannau siopa mawr a gorsafoedd trên. Mae flashmob yn ffenomenon boblogaidd yn America,

Y trefnydd cerddorol oedd Daniel Lawrence – trefnydd sain cynhyrchiad Y Storm ac aelod o’r deuawd gwerin Olion Byw.