Jim Parc Nest - wedi erfyn ar Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymateb i “erfyniad” gan yr Archdderwydd Jim Parc Nest – ac mae’r Archdderwydd yn edrych ymlaen at ysgwyd llaw y gwleidydd yng Nghylch yr Orsedd fore Gwener.

Yn ei araith o’r Maen Llog fore Llun, roedd Jim Parc Nest wedi erfyn ar Carwyn Jones i ail-ystyried croesawu llongau tanfor niwclear i Sir Benfro.

Erbyn heddiw, mae Carwyn Jones wedi ymateb trwy ddweud nad yw Amddiffyn yn faes sydd wedi ei ddatganoli, ac felly nid mater i wleidyddion y Cynulliad ydi penderfynu ar roi cartref i Trident.