Alan Llwyd
Mae’r Prifardd Alan Llwyd wedi tynnu’n ôl o roi darlith yn y Babell Lên heddiw – ac yn ei le, mae sesiwn holi ac ateb gydag enillwyr cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2012.

‘Cofiannau’ ydi testun y sesiwn sydd wedi’i nodi yn Rhaglen y Dydd ac sydd wedi’i gywiro ar yr amserlen ar ochr yr adeilad ar y Maes.

Rhyw gwta bythefnos cyn y brifwyl ym Mro Morgannwg, y canslodd awdur cofiant dadleuol ‘Kate’; rhyw wythnos wedi cyhoeddi enillwyr Llyfr y Flwyddyn ar Orffennaf 12.

Catrin Beard fydd yn holi Allan James (awdur cofiant John Morris-Jones); Jon Gower (enillydd categori’r nofel a’r brif wobr); a Karen Owen (categori barddoniaeth).