Dr John Davies, Trelech
Mae enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn amheus a oes yna bobol sy’n ddigon rhugl eu Cymraeg i astudio graddau gwyddonol trwy gyfrwng yr iaith.

Fe dderbyniodd y Dr John Davies o Drelech, Sir Gaerfyrddin, y fedal yn ystod seremoni ar lwyfan y brifwyl heddiw. Mae’n gyn-Uwch Ddarlithydd Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe.

“Mae gwyddoniaeth yn anodd mewn unrhyw iaith, ac mae angen hyder i’w astudio yn eu hail iaith. Gobeithio y bydd y Coleg Cymraeg yn rhoi hyder i bobol ifanc.”