Yr Archdderwydd Etholedig, Christine James
 Fe hoffai’r Archdderwydd Etholedig weld mwy o Gymry o dras ethnig yn cael eu derbyn i’r Orsedd.

“Fe fyddai’n braf gweld pobol o bob tras yn dod i mewn,” meddai, “achos does dim rhaid bod yn wyn.

“Mae’n rhaid i bob aelod o’r Orsedd fedru’r Gymraeg, ond nid rhywbeth sy’n perthyn i liw croen yw’r Gymraeg.”

Mae Cyfarfod Blynyddol Gorsedd y Beirdd newydd gadarnhau ei hetholiad i’r swydd.