Yr Orsedd yn derbyn aelodau
Mae Cyfarfod Blynyddol Gorsedd y Beirdd bore heddiw wedi derbyn newidiadau i’r Cyfansoddiad, ond maen nhw hefyd wedi cynnig y dylai unrhyw un sy’n astudio gradd trwy gyfrwng y Gymraeg, gael dod yn aelod.

Ar hyn o bryd, dim ond graddedigion Cymraeg a Cherddoriaeth sy’n gallu gwneud cais am aelodaeth.

Bydd Cyfarfod Blynyddol Llys yr Eisteddfod yn derbyn neu wrthod y cynigion fory ar y Maes.