Ieuan Wyn Jones yn areithio
Fe fydd Dirprwy Brif Weinidog Cymru’n rhybuddio y byddai pleidlais ‘Na’ yn y refferendwm datganoli’n gwneud drwg i enw’r wlad trwy’r byd.
Fe fydd Ieuan Wyn Jones yn dweud wrth gyfarfod o bobol fusnes yng Nghaerffili bod angen pleidlais ‘Ie’ i ddangos bod Cymru’n wlad sydd eisiau mynd i’r afael â phethau a’i bod yr un mor abl â’r Alban a Gogledd Iwerddon i wneud ei chyfreithiau ei hun.
Ymhlith y dyfyniadau o’r araith sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw, mae’n gofyn i bobol ddychmygu beth fyddai effaith pleidlais ‘na’.
Doedd y refferendwm ddim yn ddewis rhwng camu ymlaen neu aros gyda’r drefn fel y mae, yn ôl Ieuan Wyn Jones, ond dewis rhwng cam yn ôl a symud ymlaen.
Dyfyniadau o’r araith
“Sut fyddai gweddill y Deyrnas Unedig yn edrych arnon ni, heb sôn am weddill Ewrop a’r byd?” meddai.
“Mi fydden nhw’n edrych arnon ni a gweld gwlad a wrthododd y cyfle i gymryd rhagor o gyfrifoldeb yn llunio ein dyfodol ein hunain ac a ddywedodd yn lle hynny ein bod eisiau i bobol eraill benderfynu beth sydd orau i ni.”
Fe fyddai hynny, meddai, yn ei gwneud hi’n fwy anodd i hyrwyddo brand Cymru tros y dŵr a chreu cytundebau busnes y tu allan i Gymru.