Fe fydd y Refferendwm AV yn digwydd yr un diwrnod ag Etholiadau’r Cynulliad wrth i’r Llywodraeth wthio mesur dadleuol trwy Dŷ’r Arglwyddi.

Roedd yn ddiwedd ar 17 diwrnod o ddadlau yn yr ail siambr wrth i’r Arglwyddi geisio newid y mesur, sydd hefyd yn torri nifer y seddi seneddol yng Nghymru o 40 i 30.

Dim ond apêl munud ola’ gan arweinydd y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Arglwyddi a enillodd y bleidlais mewn pryd cyn i’r Senedd dorri am wyliau.

Pe bai’r penderfyniad wedi cael ei ohirio ymhellach, fyddai dim digon o amser i drefnu’r refferendwm erbyn 5 Mai.

Y refferendwm

Bellach, fe fydd y bleidlais yn digwydd ar ddiwrnod yr etholiadau i seneddau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fe fydd yn holi pobol a ydyn nhw eisiau cael system AV – pleidlais amgen – i ddewis Aelodau Seneddol, lle bydd pleidleiswyr yn gosod yr ymgeiswyr mewn trefn 1,2,3 a’r ail a’r trydydd dewisiadau’n cyfri hefyd nes bod gan un ymgeisydd fwyafrif.

Mae’n cael ei weld yn gam cynta’ at greu trefn bleidleisio cyfrannol ac, i’r Democratiaid Rhyddfrydol, roedd yn un o’r addewidion allweddol yn eu cytundeb i greu Llywodraeth Glymblaid gyda’r Ceidwadwyr.

Pwysig i Clegg

Arwydd o bwysigrwydd y bleidlais ddoe oedd bod arweinydd y Democratiaid, y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi canslo ymweliad â De America er mwyn bod yn Llundain.

“Mae hon yn garreg filltir wirioneddol i adfer hyder yn ein system wleidyddol ac i wneud ein democratiaeth yn decach,” meddai wedyn.

“Bydd ffiniau etholaethau’n cael eu diwygio fel bod pleidleisiau’n fwy cyfartal trwy’r wlad. Ac, am y tro cynta’, trwy refferendwm, bydd gan bleidleiswyr lais yn y system y maen nhw’n ei defnyddio i ethol eu Haelodau Seneddol.”

Y ddadl

Roedd ASau ac Arglwyddi Llafur wedi bod yn gwrthwynebu’r bwriad i dorri nifer y seddi seneddol ac wedi ceisio mynnu bod rhaid i 40% o’r bobol bleidleisio cyn bod canlyniad y refferendwm yn cyfri.

Fe gafodd y Mesur ei daro’n ôl ac ymlaen rhwng dwy siambr y Senedd cyn i arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Argwlyddi, yr Arglwydd Strathclyde, apelio ar yr ail siambr i ildio.

Fe fydd y gostyngiad yn nifer yr etholaethau seneddol trwy wledydd Prydain yn cwympo o 650 i 600 er mwyn cael seddi sydd tua’r un maint. Fe fyddai hynny’n golygu gostyngiad o ddeg yn nifer yr ASau Cymreig.