Dai Jones Llanilar
Ni ddylid moderneiddio dim ar yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dyna farn Dai Jones Llanilar, a enillodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970 ac a fu’n cynnal sgwrs ar y maes ddydd Llun.

Daw ei sylwadau ar ol i’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr  iaith Gymraeg, Leighton Andrews, ddweud y gall y Brifwyl dderbyn mwy o nawdd cyhoeddus – os yw’n addasu i’r byd modern.

“Maen nhw’n son  bod eisiau mwy o grant, eisiau newid y cymeriad i rywbeth mwy ysgafn – dydych chi ddim eisio hynny,” meddai’r ffermwr a’r cyflwynydd teledu. “ Steddfod ‘di Steddfod, ynde. Mae gynnon ni amrywiaeth o gystadlaethau.

“Cofiwch chi bod rhai o’r cantorion unigol sydd wedi bod ar lwyfan y Steddfod yma yn gantorion byd enwog. Felly does yna ddim llawer yn bod ar yr hyn sy’n digwydd yma.”

Roedd ar faes yr Eisteddfod i sgwrsio ym mhabell Llyfrgell Genedlaethol Cymru – sydd newydd etifeddu holl archif HTV, gan gynnwys gwerth 43 mlynedd o raglenni gan Dai Jones.

‘Safle parhaol’

Mae’r cyflwynydd yn credu y gallai’r Brifwyl ystyried sefyll mewn un man bob blwyddyn fel y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd, er mwyn “arbed arian.”

“Beth ’swn i’n licio’i weld yw arbed arian i’r Eisteddfod ‘ma,” meddai. “Dw i ddim yn meddwl bod eisiau newid dim ar y cymeriad ond mae eisiau arbed peth pres. Mae’n costio peth arian i symud bob blwyddyn. Mae system gan y Sioe bod Sir yn noddi bob blwyddyn ac mae’r Sir honno yn codi bob blwyddyn. Yng Ngheredigion, fe godon ni £430,000 – ry’n ni’n dal y record, er mai Cardis y’n ni.

“Mae’r arian hwnnw yn mynd – nid i redeg y Sioe, nei gadw prisiau i lawr – ond i adeiladu rhywbeth parhaol ar faes y Sioe, fel ei fod yna i bobol ei ddefnyddio. Dw i’n siŵr byddai Cymdeithas y Sioe yn cytuno â mi – bod yr Eisteddfod yn gwybod bod yna groeso iddyn nhw gael unrhyw beth gynnon ni sy’n helpu. Helpu’r iaith mae’r ddau achlysur.”

‘Gŵyl ddiwylliannol yn wahanol i sioe amaethyddol’

Yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod, rhaid sylweddoli mai dim ond wyth diwrnod sydd rhwng diwedd y Sioe Amaethyddol a dechrau’r Eisteddfod. “Mae troi adnoddau’r Sioe o fod yn sioe amaethyddol i fod yn ŵyl ddiwylliannol yn yfflon o job.

“Mae gen i barch mawr i bobol y Sioe – maen nhw’n rhedeg y sioe amaethyddol gyda’r orau yn y byd. Ond mae rhedeg sioe amaethyddol lle mae pob math o weithgareddau yn cynnig adloniant i bobol, yn dipyn haws na rhedeg gŵyl ddiwylliannol drwy gyfrwng iaith leiafrifol.”

Stori: Non Tudur