Fe fydd fforwm yn yr Eisteddfod yn galw ar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gynnig addysg Gymreig, yn ogystal ag addysg trwy’r Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ffurfio corff o ‘Gyfarwyddwyr Cysgodol’ ar gyfer y Coleg ac fe fyddan nhw’n monitro ei waith.

“Dylai’r weledigaeth fod yn llawer mwy na Chymraeg fel cyfrwng,” medden nhw mewn datganiad. “Mae angen mynegi … persbectif diwylliannol Cymreig ar gynnwys a swyddogaeth addysg uwch.”

Mae’r Gymdeithas hefyd yn bygwth codi arwyddion i hyrwyddo’r Coleg yn y prifysgolion sy’n rhan ohono.