Mae llawer o sôn wedi bod am App yr Eisteddfod Genedlaethol, sydd ar gael i bobol sy’n defnyddio i-Phone.

Ond mae’r app wedi codi gwrychyn un o fudiadau pwysica’ Cymru.

Yn y cyfieithiad Saesneg o’r app, sy’n rhoi map, gwybodaeth gefndirol a newyddion a chanlyniadau o’r Maes, mae Merched y Wawr yn cael ei gam-gyfieithu yn… ie, Women’s Institute.

“Mae e’n drist ac yn dangos anwybodaeth fod crewyr App yr Eisteddfod ddim yn deall y gwahaniaethau pwysig sydd rhwng y ddau fudiad,” meddai aelod o Ferched y Wawr.