Roedd prifardd y Goron eleni yn arfer mynd am wersi cynganeddu gydag un o ymgyrchwyr cynta’r iaith Gymraeg – Eileen Beasley.
Mae Gwyneth Lewis wedi cyfadde’ ei bod hi’n arfer “sleifio” am wersi cynganeddu yn ystod amser cinio yn yr ysgol.
Mae stondin ar y Maes eleni sy’n cofio aberth Eileen a’i gŵr, Trefor Beasley, a wrthododd dalu biliau treth am nad oedd Cyngor Llanelli yn y 1950au yn gwrthod anfon biliau Cymraeg.
Roedd Gwyneth Lewis yn mynd am wersi’n dawel fach oherwydd “nad oedd cynganeddu a barddoni yn cŵl bryd hynny,” meddai.