Mae  gwesty wedi gorfod canslo cystadleuaeth adeiladu cestyll tywod, oherwydd nad oes digon o dywod ar y traeth cyfagos.

Roedd Gwesty Imperial yn Llandudno wedi gobeithio cynnal y gystadleuaeth am y bedwaredd flwyddyn yn olynol ar draeth y Gogledd ddydd Mawrth nesaf.

Ond er gwaethaf ymdrechion i glirio’r traeth rhag yr holl gerrig a gwymon, mae’r tywod yn brin iawn yno.

Mae’r gystadleuaeth yn rhedeg ers 2009 ond dyma’r tro cyntaf i brinder tywod effeithio’r trefniadau.

Bu dros 120 o bobol yn codi cestyll ar y traeth gyferbyn a’r gwesty yn y gystadleuaeth y llynedd.