Christian Malcolm
Mae’r rhedwr 200m o Gasnewydd, Christian Malcolm wedi cyrraedd rownd gynderfynol y 200m i ddynion.

Roedd angen iddo orffen ei ras yn y tri uchaf i fod yn sicr o’i le yn y rownd nesaf.

Gorffennodd y ras mewn 20.59 eiliad yn lôn 4.

Mae enillydd y 100m eleni ac enillydd y 200m bedair blynedd yn ôl yn Beijing, Usain Bolt o Jamaica hefyd yn y rownd gynderfynol ar ôl gorffen ei ragras mewn 20.39 eiliad.

Roedd cyn-enillydd y 200m, Michael Johnson, sy’n sylwebu i’r BBC wedi dweud cyn y ras na fyddai’n drychineb pe na bai Bolt yn llwyddo i gadw ei afael ar ei deitl yn y 200m.

Bydd y rownd gynderfynol yn cael ei chynnal ddydd Mercher, a’r ffeinal ddydd Iau.