12 miliwn wedi gwylio Dai Greene neithiwr
Mae bron i naw allan o 10 o bobl yn y DU wedi gwylio’r Gemau Olympaidd yn Llundain eleni, yn ôl y pwyllgor trefnu.
Dywedodd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC) fod 50.572 miliwn o bobl – 88% o boblogaeth y DU – wedi gwylio o leiaf ychydig o’r Gemau.
Ac roedd 12 miliwn o flaen y teledu i wylio Dai Greene neithiwr, wrth i’r rhedwr 400m dros y clwydi orffen y ras yn y pedwerydd safle.
Roedd 11.6 miliwn o bobl wedi gwylio’r ras ar BBC1, tra bo 300,000 arall wedi ei gwylio ar y botwm coch.
Mae’r ffigurau’n dangos bod 7.7 miliwn o bobl wedi edrych ar wefan chwaraeon y BBC ddoe, ac 20 miliwn yn gwylio Usain Bolt yn cipio’r fedal aur yn ras 100m y dynion nos Sul, cynulleidfa fwyaf y Gemau hyd yn hyn.
Mae disgwyl i 100,000 awr o’r Gemau gael eu darlledu eleni, o’i gymharu â 61,000 awr bedair blynedd yn ôl yn Beijing.
Ond mae disgwyl i fwy o oriau gael eu gwylio ar-lein ac ar ffônau symudol nag ar y teledu am y tro cyntaf yn hanes y Gemau.
Mae tua 4.8 biliwn o bobl ledled y byd yn gwylio’r Gemau eleni, yn ôl y ffigurau diweddaraf.
Dywedodd Timo Lumme, sy’n gweithio i wasanaethau marchnata’r teledu yr IOC y bydd y Gemau’n cyrraedd “mwy o wylwyr nag erioed o’r blaen”.
Ychwanegodd: “Rwy’n credu bod Llundain 2012 yn arwydd o gyfnod newydd ym myd darlledu’r Gemau Olympaidd.”