Ar ôl bron i bum mlynedd o ymgyrchu a lobio, mae cyhoeddwyr a chyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru wedi ffurfio asiantaeth annibynnol er mwyn trafod taliadau a hawliau darlledu.
Mae hynny’n golygu mai’r asiantaeth – ac nid mudiad Prydeinig y PRS – fydd yn dod i gytundeb efo S4C a gorsafoedd radio’r BBC ynglyn a faint o dal y funud y dylai cerddorion a pherfformwyr ei dderbyn.
Y canwr-gyfansoddwr Gwilym Morus sy’n gyfrifol am reoli’r broses o drosglwyddo’r hawliau darlledu o PRS i’r asiantaeth, a bydd yr asiantaeth yn gyfrifol am hawliau darlledu tua 50,000 o ganeuon Cymraeg o bob steil a chyfnod.
Yn ôl Dafydd Roberts o gwmni recordiau Sain, mae’n rhy gynnar i ddweud faint o arian y bydd cerddorion Cymraeg yn ei hawlio – “ond mi fydd yn bunnoedd, nid ceiniogau, y funud.”