Does dim bwriad gan ddau saer dodrefn o ardal Caerffili roi’r ffidil – neu’n hytrach y morthwyl – yn y to, er iddyn nhw ennill £1m ar y loteri.
Cipiodd Chris Edwards, 48, o’r Hengoed, ac Idris Tipper, 59, o Gaerffili yr arian ar ôl penderfynu prynu tocyn EuroMillions ddydd Gwener diwethaf.
Sylwodd Chris Edwards eu bod nhw wedi ennill pan oedd e’n teithio lawr i garafán y teulu yn Ninbych-y-Pysgod ddydd Sadwrn.
“Edrychais i ar app y ffôn a dyma neges yn dweud ‘llongyfarchiadau, rydych chi’n filiwnydd’.”
Methodd â ffonio Idris yn syth o achos signal gwan y ffôn yng ngorllewin Cymru, ac anghofiodd anfon neges destun ato.
“Ges i gwpwl o ddiodydd i ddathlu a phan ffoniais i Idris drannoeth doedd e ddim yn fy nghredu i,” meddai Chris Edwards.
Nid oes bwriad gan y ddau i roi’r gorau i weithio, a dywedon nhw eu bod nhw am drafod gyda chynghorydd ariannol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.