Y grwp Alaw
Mi fydd tîm o artistiaid a pherfformwyr blaenllaw’n teithio o Gymru i Lydaw ar gyfer Gŵyl Geltaidd Lorient eleni.
O’r trydydd hyd at y deuddegfed o Awst mi fydd yr ŵyl yn dathlu diwylliant y gwledydd Celtaidd a’r disgwyl yw y bydd dros 700,000 o bobl yn heidio i’r ddinas.
Bydd 200 o ddigwyddiadau unigol a chyfanswm o bum mil o berfformwyr, gyda’r pwyslais ar amlygu agweddau o’r diwylliant Celtaidd.
Yn ogystal â’r gwledydd Celtaidd cyfarwydd – Cymru, Llydaw, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw ac Ynys Manaw – mae yna gynrychiolwyr o wledydd sydd efallai’n llai cyfarwydd.
Bydd Asturias a Galicia yng ngogledd Sbaen ac Arcadia ar arfordir ac ynysoedd gogledd-ddwyrain Canada hefyd yn ymuno yn y dathliadau.
Mae gwladychwyr Celtaidd Arcadia wedi cadw eu diwylliant yn fyw hyd heddiw, a hi yw “cenedl y croeso” ar gyfer yr ŵyl eleni.
Cyfle arbennig
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, “Rydym ni’n falch iawn o’n treftadaeth Geltaidd a’n cyfeillgarwch hir gyda Llydaw. Mae Gŵyl Lorient yn gyfle blynyddol i adeiladu ar ein perthynas, i gryfhau’r cwlwm Celtaidd gyda gwledydd eraill ac i ddangos i’r byd a’r betws holl ddoniau Cymru.”
Dywedodd y cerddor sy’n gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru, Antwn Owen-Hicks, sy’n arwain dirprwyaeth Llywodraeth Cymru, bod “amrywiaeth eang o sêr wrthi eleni, yn eu plith Calan, Taran, Sioned Webb ac Arfon Gwilym, Alaw, 9Bach, Richard James a Gareth Bonello.
“Mae yna arddangosfa gan y ffotograffydd cyfredol David Barnes a pherfformiad am y tro cyntaf yn Lorient gan Gôr Meibion Clwb Rygbi Treforys,” ychwanegodd.
“Mae’r ŵyl hon yn gyfle arbennig i arddangos doniau Cymreig i gynulleidfa eang, sydd bob amser yn gwerthfawrogi ein diwylliant.”
Mi fydd Bwrdd Croeso Cymru yno hefyd, yn amlygu atyniadau fel y llwybr arfordir newydd.
Cwmni Orchard sy’n gyfrifol am gynhyrchu cyfraniad Cymru eleni, gyda pherfformiadau hefyd gan Carreg Lafar, Pibau Planed a Sild.