Rhys Meirion
Mi fydd y canwr opera, Rhys Meirion, yn dechrau ar daith gerdded 200 milltir i godi arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru ar 17 Awst.
Mae’r daith yn gorffen gyda deuawd ar lwyfan gyda’r seren operatig Hayley Westenra yng Ngŵyl Gobaith ar 24 Awst.
Rhys Meirion yw llysgennad Ambiwlans Awyr Cymru.
Dywedodd y canwr ei bod hi’n “fraint ac yn anrhydedd bod yn llysgennad i’r Ambiwlans Awyr” ond bod y daith gerdded yn un “anodd i fedru ymarfer tuag ato.”
“Mi nes i ddeud wrth barafeddygon a pheilotiaid yr Ambiwlans Awyr nôl ym mis Tachwedd y llynedd fod gen i syniad i neud taith gerdded,” meddai Rhys Meirion.
“Ond mi oeddan nhw’n meddwl y byddwn i wedi anghofio am y peth erbyn y bore!”
Bu Rhys Meirion hefyd yn cymryd rhan mewn cyngerdd ar 17 Gorffennaf er cof am ei chwaer Elen, athrawes 42 oed, a fu farw dau ddiwrnod ar ôl damwain yn ei thŷ yn Rhuthun yn gynharach eleni.
Llwyddodd y gyngerdd honno, a oedd yn cynnwys disgyblion Ysgol Pen Barras lle bu Elen yn gweithio, i godi £15,000.
Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru ac Uned Gofal Dwys Ysbyty Glan Clwyd, lle roedd Elen Meirion wedi cael gofal.
Gŵyl Gobaith
Drwy gydol y daith, bydd Rhys Meirion yn cael cwmni ei fab Osian, y peilot ambiwlans awyr Martin Darlington a’i ffrind agos, y cyflwynydd Gerallt Pennant.
Yn ystod rhai rhannau o’r daith mi fydd enwogion yn ymuno â’r cerddwyr, gan gynnwys Dafydd Iwan, Siân Lloyd, Alun Ffred, Lucie Jones a Tudur Owen.
Bydd y daith gerdded hefyd yn hyrwyddo Gŵyl Gobaith sydd yn digwydd yn Llaneurgain dros benwythnos gwyliau’r banc fis Awst.
Dros yr ŵyl pedwar diwrnod bydd sawl artist yn perfformio gan gynnwys Hayley Westenra, Charlotte Church, Bryn Fôn, Masters In France, Steps, Three Phantoms, Shân Cothi, ac wrth gwrs, Rhys Meirion.
Ceir mwy o wybodaeth am y daith gerdded, ac ar sut i gyfrannu, ar y wefan cerddwnymlaen.com neu walk-on.co.uk