Mae trefnydd gŵyl e-lyfrau wedi dweud ei fod yn “siomedig” gyda’r ymateb i’r ŵyl a bod yr hinsawdd economaidd yng Nghymru wedi bod yn faen tramgwydd i’w llwyddiant.

Dros y penwythnos diwethaf cynhaliodd Julian Ruck ŵyl Kidwell-e yng nghwrs rasio Ffos Las ger Cydweli, a dywedodd mai’r wobr o £10,000 i e-lyfr gorau’r ŵyl – Caposcripti gan Zelda Rhiando – oedd y wobr gyntaf o’i math yn y byd.

Ond mae dau o’r awduron oedd ar restr fer y wobr wedi beirniadu trefniadaeth yr ŵyl ac wedi dweud ei bod hi “fel y bedd” yno.

“Am ddigwyddiad oedd i fod i ddenu 20,000 o bobol, ni wnaeth neb droi fyny,” meddai Rod Tyson, awdur Curse of Ancient Shadows.

Roedd Tin Larrick hefyd yn feirniadol.

“Roedd unrhyw glod neu hygrededd a fyddai wedi dod o gael fy roi ar y rhestr fer wedi ei ddadwneud gan y ffordd drychinebus yr aeth yr ŵyl rhagddi,” meddai awdur Devil’s Chimney.

‘Gallwch chi ddim plesio pawb’

Dywedodd Julian Ruck wrth Golwg360 ei fod am “roi rhywbeth yn ôl i Gymru” ac er ei fod yn siomedig gyda’r ymateb, gwadodd fod beirniadaeth yr awduron yn deg.

“Aeth llawer o awduron adnabyddus o Loegr oddi yma yn fodlon iawn,” meddai.

“Mae’r ŵyl wedi rhoi Cydweli a Chymru ar y map ac mae llawer o bethau cadarnhaol wedi dod mas ohono.

“Gallwch chi ddim plesio pawb,” ychwanegodd.

Mae Julian Ruck yn awdur ei hun ac wedi bod yn feirniadol o ddibyniaeth y diwydiant llyfrau yng Nghymru ar arian cyhoeddus.

“Ar ôl yr holl arian sy’n cael ei daflu at awduron a chyhoeddwyr, ble mae James Joyce neu Seamus Heaney Cymru?

“Mae’n hen bryd i ni yng Nghymru ddibynnu llai ar gildyrnau cyhoeddus.”

Dywedodd Julian Ruck mai menter fasnachol oedd yr ŵyl e-lyfrau ac na chafodd geiniog o arian cyhoeddus.

“Gwnes i ddim hyd yn oed ymgeisio am arian cyhoeddus,” meddai.

Dywedodd fod e-lyfrau yn destun da ar gyfer gŵyl ond efallai nad yw Cymru yn barod am y fath ŵyl.

“Rwy’n bwriadu cynnal yr ŵyl eto’r flwyddyn nesaf ond bydd rhaid i ni drafod p’un ai i’w chynnal hi yng Nghymru.

“Rwy’n teimlo’n siomedig ac fe wnawn ni ddysgu gwersi o’r penwythnos.”