Gwesty Castell Rhuthun
Yn dilyn cynllun gan Lywodraeth Cymru, mae 300 o swyddi newydd wedi’u creu a 50 o swyddi eraill wedi’u diogelu yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru ers y llynedd.

Mae’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth wedi dyrannu £3.8 miliwn i fusnesau twristiaeth ers mis Ebrill 2011, gyda chyfanswm costau cyfalaf prosiectau Cymru dros £14.1 miliwn.

Gall busnesau sydd eisoes yn bodoli a busnesau newydd fanteisio ar y gronfa i uwchraddio ansawdd cyfleusterau ac ati.

Gan groesawu’r newyddion, dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart: “Mae creu 300 o swyddi newydd yn un o’n sectorau twf allweddol yn newyddion ardderchog i Gymru, yn arbennig yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn i’r DU.

“Mae hefyd yn dangos, er gwaetha’r tywydd siomedig, bod dyfodol disglair i dwristiaeth yng Nghymru.

“Mae twristiaeth werth tua £4 biliwn y flwyddyn i economi Cymru, ac mae potensial enfawr i ehangu felly allwn ni ddim fforddio eistedd ‘nôl,” ychwanegodd.

Busnesau’n elwa

Un o’r busnesau sydd wedi elwa o’r cynllun yw gwesty Browns Hotel yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin.

Ar ôl gorfod cau am gyfnod, mae cyn dafarn leol Dylan Thomas bellach yn ailagor fel gwesty moethus 15 ystafell.

“Mae’r trawsnewidiad dros y misoedd diwethaf wedi bod yn syfrdanol,” meddai rheolwr cyffredinol Browns Hotel, Charlie Dyer.

“Gyda chefnogaeth hanfodol Llywodraeth Cymru roedd modd i ni adnewyddu adfail o adeilad ac rwy’n falch iawn i ni fedru ailagor mewn pryd ar gyfer dathliadau cenedlaethol canmlwyddiant genedigaeth Dylan Thomas.”

Busnes arall sydd wedi elwa o gefnogaeth y cynllun yw Gwesty Castell Rhuthun yn Sir Ddinbych.

Derbyniodd £500,000 er mwyn uwchraddio’r adeilad i fod yn westy 4 seren a datblygu cyfleuster sba.

Dywedodd Anthony Saint Claire o Gastell Rhuthun, “Mae’r gwesty newydd orffen y gwaith o uwchraddio’r 38 ystafell wely olaf allan o 60 i safon 4 seren ac wedi creu profiad sba Cymreig o’r enw ‘The Moat’.

“Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, roedd y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth yn hanfodol i’n cynlluniau ar gyfer Castell Rhuthun.”