Leighton Andrews
Dylai’r iaith Gymraeg wneud y gorau o’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan y cyfryngau newydd a thechnoleg, meddai Leighton Andrews, y Gweinidog sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg.

Mae’r Gweinidog, sydd i annerch cyfarfod cenedlaethol y Papurau Bro, sef rhwydwaith o 52 o bapurau newydd cymunedol ledled Cymru, yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn, wedi galw ar y Papurau Bro i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddod o hyd i gynulleidfaoedd newydd ac i gysylltu â’r genhedlaeth ifanc.

Meddai Leighton Andrews: “Rydyn ni am i bobl weld bod y Gymraeg yn iaith fodern, fyw.  Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod yr iaith ar gael i bawb ym mhob math o gyfathrebu.

“Mae’r Papurau Bro yn draddodiad pwysig yng Nghymru, ond wrth i fwy o bobl droi at y dechnoleg newydd am eu newyddion, mae’n hanfodol eu bod yn defnyddio’r dulliau newydd hyn o gyfathrebu.

“Mae nifer o gyfleoedd ar gael i helpu’r broses o gyhoeddi’r Papurau Bro i symud â’r oes, o’r dylunio a’r cysodi i ddefnyddio Hyperlocal i’w hyrwyddo.  Mae llawer iawn o dechnoleg ar gael i’w gwneud yn hygyrch i gynulleidfa ehangach a rhoi lle i leisiau newydd.”

‘Sicrhau nad yw’r iaith Gymraeg yn cael ei gadael ar ôl

Meddai Bryan James, Is-Cadeirydd Pwyllgor y Dinesydd, Papur Bro Dinas Caerdydd ar Cylch:

“Mae ein cyfarfodydd cenedlaethol yn yr Eisteddfod yn gyfle i rannu syniadau a materion sy’n gysylltiedig â Phapurau Bro a rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed barn y Gweinidog am y cyfryngau newydd a thechnoleg.”

Mae Strategaeth Iaith Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru, Iaith fyw: Iaith Byw, yn rhoi pwysigrwydd mawr ar swyddogaeth technoleg a’r cyfryngau digidol yn nyfodol yr iaith, ac yn gynharach eleni sefydlwyd Grŵp y Gymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol i roi cyngor ar y rhan hwn o’r strategaeth.

Dywedodd  Leighton Andrews:  “Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae’r ffaith bod cynnwys cyfryngau digidol ac apps nid yn unig yn caniatáu i’r iaith Gymraeg ffynnu, ond hefyd yn galluogi siaradwyr y Gymraeg i gymryd rhan yn llawn fel dinasyddion digidol.

“Mae’n rhaid inni wneud yn siŵr nad yw’r iaith Gymraeg yn cael ei gadael ar ôl gan y technolegau diweddaraf ac yn hytrach ein bod yn eu defnyddio i ddangos bod yr iaith Gymraeg yn gyfrwng creadigol, pwerus, modern sy’n hawdd ei addasu.”

Bydd y Gweinidog yn trafod manteision y cyfryngau newydd a thechnoleg yng nghyfarfod cenedlaethol y papurau bro ym Mhabell y Cymdeithasau 1,  Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012, am 2pm ddydd Sadwrn, 4 Awst.