Mae’r Grid Cenedlaethol wedi cyhoeddi mai Cefn Coch, rhwng Llanfair Caereinion a Charno, fydd lleoliad is-orsaf drydan dadleuol a fydd yn derbyn cyflenwad trydan gan felinau gwynt ac yn ei gyfeirio i Loegr.
Mae’r Grid Cenedlaethol wedi dweud mai’r llwybr maen nhw’n ei ffafrio ar gyfer cludo’r trydan ar beilonau yw’r un o Gefn Coch, ar hyd yr afon Efyrnwy i Lansanffraid. Bydd y llwybr yn pasio Dyffryn Meifod a safle hen lys tywysogion Powys ym Mathrafal,
Dywed y Grid y byddan nhw’n ystyried gosod ceblau dan ddaear yn ogystal â chodi peilonau.
Cyn y cyhoeddiad roedd yr Aelod Seneddol lleol, Glyn Davies, wedi disgrifio’r is-orsaf fel “anghenfil” a dywedodd y bydd y peilonau yn “grotèsg.” Dywedodd fod y cyhoeddiad y bore ma yn ddechreuad ar “frwydr ddyrnau” rhwng trigolion a’r Grid Cenedlaethol, gan fod gwrthwynebiad chwyrn wedi bod i’r prosiect.
Roedd rheolwr y prosiect, Jeremy Lee, wedi dweud y bydd yn “cael effaith am flynyddoedd maith i ddod” a’i fod yn hanfodol fod y Grid Cenedlaethol yn gwneud y penderfyniad cywir.
Cyfarfodydd cyhoeddus
Mae’r Grid Cenedlaethol wedi trefnu’r cyfarfodydd canlynol er mwyn hysbysu pobol leol am yr hyn fydd yn digwydd nesaf.
Dydd Mawrth 7 Awst 2yp – 8yh |
Neuadd bentref Llanymynech, | |
Dydd Mercher 8 Awst 2pm – 8yh |
Canolfan Gymunedol Cwm Llanllugan ger Y Trallwng | |
Dydd Sadwrn 11 Awst 10yb – 4yp |
Neuadd bentref Meifod | |
Dydd Iau 16 Awst 2yp – 8yh |
Neuadd gyhoeddus Llanfair Caereinion |