Mae prif weithredwr Chwaraeon Cymru, Huw Jones wedi dweud na chafodd fynd i mewn i ganolfan nofio’r Gemau Olympaidd nos Sadwrn.
Cafodd wybod nad oedd ei docyn yn caniatáu iddo fynd i gystadlaethau’r nos, a bod yn rhaid iddo adael y ganolfan, er bod digon o le i eistedd.
Mae’r ffrae ynghylch seddi gwag ar gyfer nifer helaeth o gystadlaethau wedi cynyddu yn y dyddiau diwethaf.
Daeth i’r amlwg nad yw llawer o wahoddedigion o wledydd tramor sydd wedi cael cynnig tocyn, wedi dod i Lundain ar gyfer y Gemau. Dywedodd cadeirydd Gemau Olympaidd Llundain 2012, yr Arglwydd Sebastian Coe na fyddai seddi gwag yn achosi problemau yn ystod y gystadleuaeth.
‘Siomedig’
Dywedodd Huw Jones wrth y BBC fod y sefyllfa’n siomedig ond roedd yn barod i ganmol y trefnwyr Locog am geisio ei datrys.
“Dydy fy mhrofiad ddim wedi bod yn dda yn hyn o beth. Roedd yna unigolyn o Norwy a gafodd yr un profiadau.
“Rwy’n credu bod gan Locog lawer o faterion y mae’n rhaid iddyn nhw eu datrys go iawn.”
Mae Locog wedi dweud y byddan nhw’n ceisio llenwi’r seddi gwag ar gyfer gweddill y Gemau drwy gynnig tocynnau i fyfyrwyr, athrawon ac aelodau’r lluoedd arfog.
Cafodd 3,000 o docynnau ychwanegol eu gwerthu i’r cyhoedd ar gyfer cystadlaethau heddiw ar ôl iddyn nhw gael eu dychwelyd gan nifer o ffederasiynau chwaraeon.