Tom James
Mae’r Cymro Tom James wedi cyrraedd rownd gynderfynol y pedwarawd rhwyfo ar ôl i bedwar Prydain ennill eu rhagras.

Mewn rhagras arall torrodd Awstralia y record Olympaidd gan orffen 3 eiliad yn gyflymach na phedwarawd Prydain.

Ni fydd Prydain ac Awstralia yn cwrdd tan y rownd derfynol ac mae disgwyl brwydr ffyrnig rhyngddyn nhw am y fedal aur.

Cafodd Tom James ei eni yng Nghaerdydd a’i fagu yn Wrecsam, ac roedd yn aelod o bedwarawd Prydain a gipiodd y fedal aur yng Ngemau Beijing yn 2008.  Yn gynharach eleni datgelodd fod ganddo gyflwr sy’n achosi i’w galon guro’n afreolus, a chollodd sesiwn ymarfer wythnos ddiwethaf o achos curiad calon gyflym.