Mae animeiddiwr wedi datgan ei siom ar ôl i S4C wrthod fersiwn gartŵn o’r hen raglen deledu i blant, Syr Wynff a Plwmsan.

Bu Iestyn Roberts yn gweithio am dros flwyddyn ar droi’r cymeriadau digri i mewn i gartŵn 3D. Bu’n trafod ei syniad gyda chomisiynwyr S4C a chafodd gefnogaeth y ddau actor gwreiddiol, Wynford Ellis Owen a Mici Plwm.

“Yn anffodus, cefais alwad ffôn gan S4C yr wythnos ddiwethaf yn dweud eu bod nhw wedi penderfynu peidio â chomisiynu’r project,” meddai Iestyn Roberts.

“Mae’n siomedig ar ôl yr holl waith dwi, Mici a Wynford wedi ei wneud ar bob dim.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, mai “mater golygyddol rhwng S4C a chwmnïau unigol yw pob comisiwn,” ac nad yw’r sianel am wneud sylw ar brosiectau penodol.

Rhagor yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma