Mae enwau’r prif artistiaid fydd yn ymddangos yng ngŵyl gerdd Merthyr Rock ddiwedd Awst wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Y prif fandiau fydd Razorlight, Skindred a Kids in Glass Houses.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros dri diwrnod gan ddechrau dydd Gwener, 31 Awst.

Cynhaliwyd yr ŵyl Merthyr Rock am y tro cyntaf y llynedd. Mae’n fenter sy’n cael ei drefnu gan dîm Gŵyl y Gelli gan geisio dod â’r un hwb economaidd a chyfleoedd gwaith i bobol ifanc Merthyr sydd wedi dod i’r Gelli yn sgil yr ŵyl enwog honno.

Bydd Brwydr Bandiau roc Merthyr yn digwydd ar draws Cymru gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal yng Nglyn Ebwy ddydd Gwener, 17 Awst.

Bydd y band buddugol yn ymddangos ar lwyfan Merthyr Rock.

Bydd y rhagbrofion eraill yn cael eu cynnal ym Merthyr Tudful (Gwener, 3 Awst), Caerdydd (Iau, 9 Awst), Abertawe (Gwener, 10 Awst), Pen-y-bont (Sadwrn, 11 Awst) a Galeri, Caernarfon (does dim dyddiad wedi ei bennu ar gyfer y rownd yma eto).