Jonathan Sillett
Mae un person arall wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad ar ôl i ddyn lleol farw ym Mhrestatyn dros y penwythnos.

Mae’r dyn 20 oed wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu’n gwneud mwy o ymholiadau.

Bu farw Jonathan Sillett, 43, mewn digwyddiad ar Ffordd y Traeth, ger safle ffair Prestatyn, ac mae naw person wedi cael eu harestio hyd yn hyn gan heddweision sy’n ymchwilio i’r achos.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn tawelu ofnau pobol leol.

“Mae Prestatyn yn un o’r mannau mwyaf diogel a thawel yng Ngogledd Cymru ac mae’n ymddangos bod y digwyddiad trasig diweddar lle bu Mr Sillett farw yn ddigwyddiad prin,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Graham Talbot.

“Gallaf sicrhau’r cyhoedd ein bod ni’n cymryd digwyddiadau o’r math hwn o ddifrif, mae’r mater yn cael ei ymchwilio’n llawn a bydd staff Plismona Cymdogaeth yn parhau i ddarparu presenoldeb gweladwy yn yr ardal er mwyn tawelu meddyliau’r gymuned.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar i bobol a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth bellach i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, neu’n ddienw drwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.