Mae gweithwyr Remploy yn cynnal streic arall heddiw yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Prydain i gau ffatrïoedd.
Dywed undeb Unite fod y streic am “adeiladu ar streic lwyddiannus iawn” yr wythnos ddiwethaf yn erbyn cau 27 o 54 ffatri Remploy ym Mhrydain.
Mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau fod pump o’r naw ffatri Remploy yng Nghymru yn mynd i gau erbyn diwedd y flwyddyn – yn Abertawe, Wrecsam, Aberdâr, Merthyr Tudful ac Abertyleri.
Mae cynllun newydd i helpu gweithwyr Remploy i ddod o hyd i waith wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn costio hyd at £2.4m y flwyddyn ac yn rhedeg am bedair blynedd.
Mae undeb Unite yn galw ar Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan, Iain Duncan Smith, i sefydlu cynllun tebyg yn Lloegr.
Mae ymgyrchwyr dros gadw ffatrïoedd Remploy wedi beirniadu “llywodraeth galon-galed” sy’n benderfynol o’u gorfodi i “fynd ar y clwt”.
Cafodd Remploy ei sefydlu yn wreiddiol yn 1945 er mwyn darparu gwaith i filwyr oedd wedi eu hanafu yn yr Ail Ryfel Byd.