Mae disgwyl i nifer o brotestwyr ymgynnull o flaen pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn pnawn ʼma wrth i’r Cyngor drafod ail ddrafft o’r strategaeth cynllunio ar gyfer ffermydd gwynt ar yr ynys.

Mae nifer sylweddol o geisiadau cynllunio wedi cael eu derbyn gan y Cyngor i godi tyrbinau gwynt ar yr ynys.

Mae ʼna brotestio chwyrn yn erbyn datblygiadau o’r fath wedi bod hefyd, gyda 200 o bobl yn cynnal protest yn Llangefni, a 300 o brotestwyr yn dod at ei gilydd yn Llanddona. Trefnwyd y brotest honno gan y mudiad Ynys Môn yn erbyn Tyrbinau Gwynt.  Mae’r mudiad yn dweud bod 57 o geisiadau cynllunio i godi tyrbinau wedi eu derbyn gan y Cyngor, a bod llawer o’r rhain dros 300 troedfedd o uchder.

Pwyllgor Sgriwtini Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol y Cyngor fydd yn trafod y fersiwn diwygiedig o’r strategaeth pnawn ʼma. Yn ôl adroddiad ar gyfer y Pwyllgor mae’r ail ddrafftio wedi digwydd “er mwyn ymateb i’r materion a godwyd” gan y protestwyr.

Mae’r newidiadau yn cynnwys adran newydd sy’n pwysleisio cymeriad Ynys Môn, ac mae hefyd yn gosod y tyrbinau mewn categorïau sef meicro, bychan, canolig a mawr.

Mae hefyd yn cynnig pellter o 500 metr rhwng tyrbin a chartrefi a chanolfannau twristiaeth os ydi’r tyrbin dros 20 metr.

Dywedodd un o’r rhai fu’n protestio, Mairede Thomas, wrth bapur newydd y Daily Post bod yr ail ddogfen hon yn llawer gwell na’r fersiwn cyntaf ond fe fyddai’n hoffi gweld mwy o welliannau gan gynnwys pellter o 500 metr rhwng tyrbin a chartrefi.